Mae'n ddrwg iawn gennym fod eich babi wedi marw neu y dywedwyd wrthych am ddisgwyl y bydd yn marw yn fuan. Ychydig iawn o brofiadau sy'n gallu cymharu â'r trawma a'r boen o golli babi. Mae Sands ar gael i roi cymorth am gyhyd ag y bydd ei angen arnoch ac i'ch arwain drwy'r cyfnod anodd hwn, rydym wedi llunio Llyfr Cymorth Profedigaeth Sands.

Efallai eich bod wedi darganfod bod eich babi eisoes wedi marw a gallech fod yn aros i roi genedigaeth iddo neu efallai bod eich babi wedi marw neu y disgwylir iddo farw yn fuan mewn gofal newydd-enedigol. Gallech hefyd fod wedi dewis terfynu beichiogrwydd am resymau meddygol neu fod yn disgwyl gwneud hynny’n fuan. Beth bynnag fo’r amgylchiadau, rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod hynod o drist a gofidus. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth sydd yn y llyfr hwn yn ddefnyddiol i chi nawr ac yn y dyfodol.

bereaved parents hugging

Does dim angen i chi ddarllen y llyfr hwn mewn trefn. Mae cod lliw ar gyfer pob adran fel y gallwch chi ddod o hyd i'r adrannau sydd fwyaf perthnasol i chi yn hawdd, gallwch agor PDF o bob pennod trwy glicio ar y delweddau isod. Os hoffech chi rannu adran benodol gyda pherthynas, ffrind neu gyflogwr, gallwch lawrlwytho ffeiliau PDF unigol. Gallwch hefyd archebu un o'n siop.

BSS-book-website-image Sands-Giving-birth-to-your-baby Sands-Information-and-support-for-partners Sands-Information-and-support-for-relatives-and-friends Sands-Physical-and-emotional-challenges Sands-Remembering-your-baby Sands-Returning-to-work Sands-Saying-goodbye-to-your-baby Sands-Supporting-children Sands-The-days-weeks-and-months-ahead Sands-Thinking-about-having-another-baby Sands-Understanding-why-your-baby-died

Oherwydd haelioni ein cefnogwyr a’r rhai sy’n codi arian yn ddiflino i Sands, gallwn gynnig y cyhoeddiad hwn yn rhad ac am ddim i rieni mewn profedigaeth ac i unrhyw un y mae marwolaeth babi wedi effeithio arnynt.

Rydyn ni nawr yn cynnig cyfieithiadau o’n Llyfr Cymorth Profedigaeth yn Arabeg, Bengaleg, Pwyleg, Portiwgaleg, Pwnjabeg, Wrdw, Wcreineg, Tsieinëeg Syml a Chymraeg.

Exit Site